Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 6 Mehefin 2022
Amser:
09.32 -
10.39
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12884
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Vikki Howells AS (Cadeirydd) Natasha Asghar AS John Griffiths AS Peredur Owen Griffiths AS |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Meriel Singleton (Clerc) Bethan Garwood (Dirprwy Glerc) Enrico Carpanini (Cynghorydd Cyfreithiol) Huw Williams (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Ni chafwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant.
2 Cofrestru manylion aelodau o'r teulu o dan Reolau Sefydlog 2 a 3
2.1 Trafododd y Pwyllgor y papur a chytunodd i ysgrifennu at y Prif Weithredwr i gael rhagor o wybodaeth.
2.2 Cytunodd y Pwyllgor hefyd i drafod y mater hwn fel rhan o'i adolygiad o gofrestru buddiannau, yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
3 Y weithdrefn ar gyfer ymdrin â chwynion yn erbyn Aelodau o'r Senedd
3.1 Trafododd y Pwyllgor y papur a'r Weithdrefn ddiwygiedig a chytunodd i wneud nifer o newidiadau pellach, a dychwelyd at y mater yn y cyfarfod nesaf.
4 Papur i’w nodi - Adolygiad o'r Polisi Urddas a Pharch
4.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.